A ninnau ar fin cofio hanner canmlwyddiant boddi Cwm Tryweryn, awgrymwyd y gallai Tîm Cefnogi’r Gymraeg mewn addysg ddatblygu adnodd addysgol er mwyn nodi’r achlysur nodedig hwn yn hanes y genedl. Cydiodd aelodau’r gweithgor Cynradd Cymraeg yn y syniad hwn a ffrwyth eu llafur a geir yma. Aelodau’r gweithgor a fu’n gyfrifol am ddatblygu’r adnodd yw:
Ni fwriadwyd atgynhyrchu deunyddiau sydd eisoes yn bodoli ond creu adnodd a fyddai’n ychwanegu at y deunyddiau rheini. Er taw’r Gymraeg yw prif ffocws yr adnodd, ceir nifer o gyfleoedd yma i gyflwyno agweddau ar y digwyddiad hanesyddol hwn trwy gyfrwng pynciau eraill yn ogystal â meithrin sgiliau llythrennedd yn drawsgwricwlaidd. Cynhwysir yma oriel o luniau a chlipiau sain er mwyn cyfoethogi profiadau dysgwyr yn y dosbarth hefyd, sy’n dadlennu bywyd y 60au mewn cymuned wledig yng Nghymru.
Rydym yn ddyledus iawn i Miss Eurgain Prysor Jones, un o ddisgyblion olaf Ysgol Capel Celyn, a Mr. Gwyn Roberts, mab Mrs Martha Roberts, am eu cyfraniad amhrisiadwy i’r project.
Carem gydnabod yn ddiolchgar barodrwydd Sue Palmer a Delyth Eynon i gynnwys addasiad Cymraeg o Skeleton Books.
Yn yr un modd, carem gydnabod yn ddiolchgar iawn gyfraniad Mr Aneurin Jones a fu mor barod inni gynnwys dau o’i luniau yn y pecyn.
Felly, hefyd, carem ddiolch i staff a dysgwyr Ysgol Gynradd Ynyswen am eu cyfraniad hwythau.
Cydnabyddir yn ddiolchgar cefnogaeth awdurdodau lleol Cymru.
Diolchir i:Llyfrgell Genedlaethol Cymru am eu caniatâd i atgynhyrchu lluniau hanesyddol o Gwm Tryweryn o gasgliad Geoff Charles.
Gwasg Gomer am eu caniatâd i atgynhyrchu llun clawr Ta-ta Tryweryn, Gwenno Hughes.
Urdd Gobaith Cymru am eu caniatâd i atgynhyrchu stori Boddi Cwm Tryweryn.
Cwmni Sain am eu caniatâd i gynnwys cân Dŵr, Huw Jones.
Mr Tony Schiavone am y gweithgaredd Tirwedd a Thirlun yn yr uned Daearyddiaeth.
Jonathan Rees, Cydlynydd y Gymraeg mewn Addysg CBAC
Tachwedd 2014
© CBAC
Cyhoeddwyd gan CBAC
245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX
Mae WJEC/CBAC Cyf. yn elusen gofrestredig a chwmni a gyfyngir gan warant ac a reolir gan awdurdodau lleol Cymru.